Prisiau Triniaethau’r GIG
Llywodraeth Cymru sy’n pennu prisiau gofal deintyddol ar y GIG. Rydym ni, fel practis, yn casglu’r taliadau ac yn eu pasio ymlaen i’n Bwrdd Iechyd Lleol. Pan fyddwch chi’n talu am eich triniaeth, fe gewch dderbynneb. Mae gan y practis hawl i ofyn i chi dalu cyn cael eich triniaeth.
Caiff y taliadau a godir gan y GIG eu rhannu’n bedwar band yn ôl y driniaeth angenrheidiol:
(Rydym yn dal i drwsio dannedd gosod am ddim. Os collwch eich dannedd gosod neu eu difrodi fel na ellir eu trwsio, bydd rhai newydd yn costio £80.70.)
Byddwn yn ceisio rhoi cynlluniau triniaethau ac amcanbrisiau ysgrifenedig ar gyfer pob triniaeth ym Mand 2 a Band 3.
Eithrio rhag talu taliadau’r GIG
Os ydych yn perthyn i unrhyw un o’r dosbarthiadau hyn pan fydd cwrs o driniaeth yn dechrau, ni fydd angen i chi dalu am driniaeth ddeintyddol ar y GIG:
Neu os ydych yn cael, neu wedi’ch cynnwys yn nyfarniad rhywun sydd yn eu cael:
Nid yw budd-daliadau eraill fel Budd-dal Analluogrwydd, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog na’r Lwfans Byw i’r Anabl yn rhoi’r hawl i chi gael help â chostau iechyd oherwydd nid ydynt yn gysylltiedig ag incwm.
Mae archwiliadau deintyddol am ddim yng Nghymru:
Mae gofyn talu’r tâl priodol am unrhyw driniaeth ddilynol o ganlyniad i’r archwiliad di-dâl.
Os hoffech gyngor am eithrio rhag talu, cysylltwch â GIG Cymru ar 0845 063 1108.
EICH CYFRIFOLDEB CHI YW SICRHAU BOD GENNYCH HAWL I GAEL TRINIAETH AM DDIM A LLENWI FFURFLENNI’R GIG MEWN MODD PRIODOL. MAE’R GIG YN ARCHWILIO’R RHAN FWYAF O’R CEISIADAU AM DRINIAETH AM DDIM. OS BYDD RHYWUN YN GWNEUD CAIS AMHRIODOL, CÂNT EU DIRWYO GAN AMLAF.
Prisiau am Driniaeth Breifat |
|
Tynnu plac deintiol a pholisho (hylenydd neu therapydd) |
o £43 |
Llenwadau lliw dannedd |
o £67 |
Corunau |
o £329 |
Pont lynu |
o £378 |
Pont arferol |
o £689 |
Dannedd gosod rhannol, acrylig |
o £439 |
Dannedd gosod rhannol, crôm |
o £683 |
Un dant gosod acrylig llawn |
o £473 |
Stwff gwynnu dannedd gartref (dannedd uchaf ac isaf) |
o £300 |
Argaenau porslen |
o £350 |
Gard dannedd/sblint |
£80 |
Gard dannedd chwaraeon, dau liw |
£67.50 |
Sythwyr dannedd clir Invisalign |
o £2400 |
Sythwyr dannedd lliw dannedd ClearSmile |
o £2400 |
Triniaethau Atal Rhychau ar yr Wyneb: |
|
Un rhan |
£120 |
Dwy ran |
£180 |
Tair rhan |
£240 |
neu ffoniwch heddiw ar 02922 671 858.